Quantcast
Channel: Chocolate and Vodka » cymraeg/blogiau
Viewing all articles
Browse latest Browse all 6

Tagiau Technorati

$
0
0

Pan o'n i yn Boston, o'n i'n lwcus i gyfarfod â Dave Sifry o Technorati, ac o'n ni'n siarad am betha fel y tagiau newydd Technorati sy'n cael ei ddefnyddio ar flogiau i helpu bobl darganfod postiau am yr un pwnc (yn Technorati wrth gwrs). Roedd Dave yn dweud wrtha i am ddyn o Iwerddon sy wedi dechrau defnyddio'r tag 'Ireland' i helpu agregeitio postiau am y wlad.
Dw i'n meddwl syniad da iawn iawn yw o, felly hoffwn i awgrymu bod ni'n adoptio'r tag 'cymraeg' i helpu agregeitio postiau yn y Gymraeg yn Technorati. I wneud hyn, jyst defnyddiwch y côd 'ma:

<a href="http://technorati.com/tag/cymraeg" rel="tag">cymraeg</a>

sy'n edrych fel hyn pan mae'n cael ei ddefnyddio yn ffynhonnell y tudalen:
Wedyn byddwn ni'n gallu mynd i'r tudalen cymraeg Technorati i weld pwy eraill wedi bod yn blogio yn y Gymraeg. Yn anffodus, sdim fîd RSS ar hyn o bryd, a dach chi ddim yn gallu tanysgrifio i watchlist sy wedi cael ei greu o tag, ond mae 'na API nawr ac mae Kevin Marks wedi dweud wrtha i fod nhw'n gweithio ar y peth.
Os dach chi'n defnyddio Ecto i flogio, dach chi'n gallu creu tag HTML newydd mewn 'custom tags'; os dach chi'n defnyddio WordPress, dyma plug-in gan Steph; neu dyma bookmarklet 'ma gan Oddiophile ar gyfer popeth arall.
Dw i wedi sgwennu mwy am dagiau ar Strange Attractor, ac mae Shelley wedi sgwennu erthygl da iawn iawn am y peth ar Burningbird.
UPDATE: Post arall am dagiau Technorati ac iaith ar Strange Attractor.


Viewing all articles
Browse latest Browse all 6

Latest Images

Trending Articles



Latest Images